top of page
Search

Canlyniadau a dadansoddiad o'r data holiadur

  • Writer: Cai Thomas
    Cai Thomas
  • Aug 1, 2022
  • 5 min read

Updated: Sep 15, 2022


Er mwyn cael dealltwriaeth o’r problemau rygbi rhanbarthol yng Nghymru, roedd angen cynhyrchu ymchwil cynradd. Cyflawnwyd hyn trwy ddefnydd o holiadur gan holi cefnogwyr o ranbarthau wahanol gwestiynau ynglŷn â’r sefyllfa rygbi rhanbarthol yng Nghymru. O fewn y postiad blog yma, byddwn ddadansoddi'r barnau gwahanol er mwyn gweld y amryw o achosion mae cefnogwyr yn teimlo yw'r prif broblemau. Ymhellach, bydd postiadau nesaf yn gwneud ymchwil mewn i resymau penodol i geisio dadansoddi gyda dyfnder i bob awgrym.



Dyma lun o'r ffwrdd-scorio gwreiddiol o faes rygbi St Helens, cartref i Abertawe RFC



Roedd y sampl yn gasgliad o 40 pobl gydag amryw o oedrannau, ardaloedd a rhywiau. Mae yn bwysig i gael yr amrywiaeth eang yma er mwyn sefydlu ymatebion teg. Yn amlwg, mae rhaid defnyddio cyfranogwyr o ardaloedd gwahanol iddyn nhw allu cynrychioli'r rhanbarthau gwahanol. Wrth greu sampl gydag amryw o oedrannau, mae'n creu canlyniadau llawer fwy effeithiol gan fod y cyfranwyr henaf yn gallu cofio cyfnod o amser hyr, yna gellir gwneud cymhariaeth gyda chyfranwyr mwy ifanc.





Yn ychwanegol, mae’n bwysig i gael cefnogwyr gydag amrywiaeth o gyfranogiad mewn rygbi rhanbarthol. Hynny yw, derbyn ymatebion o gyfranwyr sy’n adnabod eu hunain fel un o’r cefnogwyr fwyaf i gefnogwyr lleiaf. Mae hyn yn darparu data sy'n sefydlu o'r barnau fwyaf technegol i’r barnau fwyaf syml. Mae’r data yma yn ddiddorol er mwyn gallu cymharu'r ddau i weld os yw’r consensws cyffredinol yn debyg.



Cyn mynd ymlaen, mae'n bwysig i ddeall y broblem dan sylw. Yn 2003, gwnaeth y Prif Weithredwr ar y pryd, David Moffet, gosod targed o 8,000 mynychwyr yn pob gem i bob rhanbarth. Yn ôl ymchwil Wales Online (Howell 2020), mae pob  tîm yn denu  llai na'r presenoldeb gofynol gan dipyn sydd yn gynrychiolaeth glir o'r broblem. Yn ogystal â hyn, mae'r data o'r holiadur yma yn dangos yn glir y difrifoldeb o'r broblem.


Gallwch ddarganfod ystadegau ar y sefyllfa o fewn y postiad nesaf.





Gan edrych a’r ymchwil gynradd yma (ffig. 3), mae 70% o’r cyfranwyr yn gweld eu hunain fel cefnogwyr mawr o’r gamp. Mae’r ffigwr hon yn ddiddorol wrth ystyried bod 85.7% o’r cyfranwyr yn naill byth mynychu i’r gemau, neu dim ond weithiau (ffig. 4).








Gyda llaw, mae’r diddordeb dal yna. O’r canlyniadau, mae 38.1% o’r cyfranwyr yn naill wyliau gemau yn fyw yn aml neu wastad (ffig.5). Yn cymharu gyda’r ffigurau o fynychwyr i’r gemau, mae’r diddordeb dal yna. Yn ogystal â hyn, 71.4% ar aml neu wastad yn cadw llygad ar ganlyniadau'r timoedd (ffig. 6). Mae hyn yn dangos bod cefnogwyr o rygbi rhanbarthol yn gofalu am y timoedd ond dydw nhw ddim yn mynychu i’r stadiwm.





Gan edrych a'r ystadegau, does dim cwestiwn o broblem gyda’r presenoldeb. Ar ben hynny, nid yw’n broblem ddisylw. Gwnaeth 92.9% o’r cyfranwyr adnabod y broblem (ffig.7).



O fewn ffig. 7, mae'n ofyn “Yn dilyn y cwestiwn diwethaf, eglurwch y rheswm tu ôl i'ch ateb”. Roedd llawer o’r ymatebion yn debyg iawn. Gwnaeth llawer adnabod problemau o gost tocynnau, gyda rhai yn datblygu'r farn gan nodi nid yw’r safon rygbi yn cyd-fynd â phris y tocyn. Roedd y safon o rygbi yn broblem gwnaeth llawer cytuno arno.



Dyma rhau dyfyniadau mewn perthynas â hyn:



“Costs. Poor standard of rugby in comparison to other countries”


“Cost of tickets”


“Rugby level has decreased”


“Price of tickets need to lower and we need to be more competitive”


“Attendance is dreadful but then so is the product on offer”


“Tickets are too expensive”


“Poor standard of rugby, compared to England etc.”


“Costs. Poor standard or rugby in comparison to other countries”


“Poor performance, ticket prices too high, poor age grade pathways and not enough support of grassroots clubs”


“The product isn't value for money.”


“Poor spectacle, no enthusiasm in going as it’s not great to watch”


“The poor standard of rugby played by the regions. Lack of wins/success. The regions do not generate an atmosphere. Lack of local identity.”


“Cost. Not always shown on TV so it is not interesting younger crowd”


“The cost to attend games and prices inside the stadium is a problem - I believe it just isn't affordable for many fans. Also, it is harder to support my region now since the games are only available on a subscription channel. It was much better when BBC Scrum V and S4C were showing all the regional matches.”




Un thema arall sy'n codi dro ar ôl tro yw’r newid yn 2003. Hynny yw, newidydd y WRU y nifer o dimoedd rhanbarthol o 9 yn y cynghrair uchaf, i 4. Gwnaethant hyn drwy leihau'r ardal o Gymru i gyd mewn i'r 4 rhanbarth yr ydym yn eu hadnabod heddiw, sef y Gweilch, Scarlets, Dreigiau a Caerdydd.


Dyma rhai dyfyniadau ar y mater:



“Bringing together teams such as Swansea, Neath and Aberafon to form the Osprey region has led to some difficulty identifying regional rugby. This is true of areas such as Maesteg, Bridgend, Penarth, Pontypridd, Pontypool etc...”


“Under the old club structure there used to be huge crowds for local derbies and schweppes cup games. Now the regions struggle to get half full stadiums and couldn't sell 10s of thousands of tickets. There is a lack of interest in regional rugby, it is often a very poor spectacle, with poor Welsh regions. Even rugby fans are giving up let alone casual viewers.”


“Lack of local identity”


“I think a lot of the differences come down to the history of the club. Irish teams were founded around 1880 so have a more established generational following and sense of belonging within its fanbase. Welsh regional clubs came in to being in 2003 and have struggled to match this. The Scarlets have retained the most in the way of history which, I think, is reflected in the average home game attendance figures.”


“I remember more attendance at matches before today's regional system”




Roedd y cwestiwn i ddilyn hon yn ddiddorol iawn (ffig. 8). Yn gyffredinol, nid yw pobl yn teimlo bod y broblem yn cael ei datrys, er, mae yna farnau o amryw.






Mae Cymru yn enwog am rygbi. Mae wastad wedi cael ei gweld fel y gamp genedlaethol. Erbyn nawr, gyda llwyddiant y tîm cenedlaethol pêl-droed, yn ogystal â llwyddiant y clybiau, mae yna newidiad yn dechrau. Gwnaeth yr holiadur cwpla gan ofyn, “Beth yw'r gamp genedlaethol Cymru yn eich barn chi?”. Roedd 28.6%, sef dros chwarter, yn meddwl bod pêl-droed yw’r gamp genedlaethol y wlad. Yn ogystal â hyn, roedd sawl yn nodi bod rygbi yw’r gamp genedlaethol, ond bod nhw’n credu bod pêl-droed yn cymryd drosodd. Gyda’r sefyllfa rygbi yng Nghymru mynd yn waeth, a phêl-droed yn cryfhau, mae’r newidiad yn teimlo’n anochel.


Yn y postiadau nesaf, bydd y blog yn dehongli'r prif ddadleuon a drafodwyd yn y postiad yma. Bydd hyn yn cynnig casgliad o ba mor ddilys yw'r o'r postiad yma.



Diolch am ddarllen.






Llyfryddiaeth

Howell, A. (2020). The truth about Welsh regional rugby crowds and who has the biggest gates. Wales Online. Retrieved July 2022, from https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/truth-welsh-regional-rugby-crowds-17607918.

 
 
 

Recent Posts

See All
Helo, shwmae a chroeso!

Dyma'r postiad cyntaf i'r blog yma. Mae'r blog yma yn sefydlu o gwmpas y broblem o'r diffyg presenoldeb mewn rygbi rhanbarthol yng...

 
 
 

Comments


bottom of page