Y DECHRAU O'R DIWEDD?
- Cai Thomas
- Aug 15, 2022
- 5 min read
Updated: Sep 15, 2022
Dechreuodd y blog yma gyda postiad yn dadansoddi holiadur ble roedd cefnogwyr rygbi rhanbarthol Cymraeg yn mynegi eu barnau gwahanol i geisio dehongli'r problemau tu ôl i’r presenoldeb a’r gamp. Yn y postiad diwethaf, roedd y drafodaeth yn sefydlu o gwmpas llwyddiant y timoedd a’r prisiau stadiwm i fynychu i gemau. Yn ôl y canfyddiad, mae’r prisiau tocynnau yn deg, ac wrth gymharu’r llwyddiant gwael y rhanbarthau Cymro, does dim effaith uniongyrchol gan fod timoedd yn wledydd eraill dal gallu cynhyrchu presenoldeb fawr hyd yn oed oes nhw’n methu i greu llawer o lwyddiant. Mae awyrgylch o gwmpas y stadiwm yn ffactor pwysig a ddarganfuwyd ac yn rhywbeth mae timoedd Cymraeg yn brwydro i ddenu. Er mae hyn yn ganlyniad sylweddol i’r ymchwil, dydy e ddim y ffynhonnell i’r broblem dan sylw. O fewn y postiad yma, bydd y drafodaeth yn edrych ar awgrym mae llawer o’r cyfranogwyr holiadur yn teimlo. Yr effaith o’r newidiadau gan y WRU (Welsh Rugby Union) yn 2003.
Ffigwr 1: Abertawe RFC v Caerdydd RFC, 1974, yn St Helens, Abertawe. Rhai wynebau enwog a stadiwm llawn
Yn 2003, gwnaeth y WRU penderfyniad i newid fformat y timoedd rhanbarthol Cymru. Cyn 2003, roedd pob tîm yng Nghymru yn chwarae o fewn yr un gyfres o gynghreiriau. Roedd y timoedd gorau yn chwarae yn Adran 1, gyda phob adran o dan yn safon is, lawr i Adran 5. Roedd pob tîm yn cael y siawns i ddyrchafu, yn ogystal â phob tîm yn gallu cael eu hanfon lawr adran hefyd. Roedd hyn yn meddwl bod unrhyw dîm yng Nghymru, os oedden nhw’n llwyddiannus, yn gallu chwarae at y lefel uwch. Roedd Adran 1 wedi cael eu sefydlu o 9 tîm. Gyda dros 300 o glybiau yng Nghymru, roedd y gystadleuaeth yn gryf. Roedd llawer o’r chwaraewyr Adran 1 yn chwaraewyr rhyngwladol. Wedi’n, daeth y newid. Gwnaeth y WRU adeiladu dyled o £70 miliwn, felly roedden nhw’n cael trafferth i ariannu'r 9 tîm yn Adran 1 (Howell, 2019). Penderfynodd Prif Weithredwr David Moffet, a’r WRU, i newid y fformat i leihau'r niferoedd o ranbarthau uwch a chreu 5 tîm newydd i gynrychioli ardaloedd gwahanol gan ware o fewn cynghrair gyda’r gwledydd Celtaidd eraill. Cawsant y Gweilch, Scarlets, Gleision (Cardiff Blues), Dreigiau a’r Celtic Warriors sefydlu. Er, oherwydd rhesymau ariannol, roedd y Celtic Warriors ond wedi para am flwyddyn. Gallwch weld pa ardaloedd mae’r rhanbarthau yn cynrychioli o fewn y tabl isod:

Ar ôl flwyddyn o’r fformat newydd, roedd y WRU wedi cael gwared o’r Celtic Warriors. Disgrifiodd Lynn Howells, cyn hyfforddwr tîm Cymru a hyfforddwr i’r Celtic Warriors, hyn am y digwyddiad “Imagine the English Premier Football League getting rid of Man Utd whilst keeping hold of Hull and Blackburn – utterly beyond comprehension! Welsh club rugby has been paying the price since.” (Howell, 2019). Roedd y Celtic Warriors yn perthyn i’r chwaraewyr gorau yng Nghymru, yn cynnwys Gareth Thomas, Neil Jenkins, Ryan Jones, Gethin Jenkins a fwy. Nid ond oedd Cymru wedi colli ei tîm cryfaf y wlad, roedd y cymoedd a Pen-y-Bont wedi colli eu tîm lleol. Penderfynodd y WRU i geisio ymuno’r ardal o Ben-y-Bont gyda’r Gweilch, ac ymuno’r cymoedd gyda’r Gleision. Roedd hwn yn ddigwyddiad nad yw llawer erioed wedi ei faddau, trobwynt arwyddocaol yn rygbi Cymru. Mae’r diffyg hunaniaeth yma mae pobl yn teimlo gyda’r rhanbarthau heddiw yn bwnc Siôn Tomos Owen a fi’n trafod o fewn pennod o’r podlediad. Gwrandewch arno fan hyn!
Presenoldeb yn y tymor cyntaf
O ganlyniad o’r newidiadau rhanbarthol, roedd y presenoldeb yn y gemau yn siomedig. Yn cymharu ag Adran 1, cyn 2003, nid oedd llawer o welliant o ran presenoldeb gemau. Enwedig wrth ystyried yr ardaloedd mawr roedd y rhanbarthau newydd yn cynrychioli. Gallwch weld fwy o fanylion am y presenoldeb Adran 1 o fewn y ffilm dogfen, sy’n rhan o’r prosiect yma.
Isod, gallwch weld tabl sy’n arddangos ffigurau presenoldeb ar gyfartaledd am y tymor cyntaf i’r rhanbarthau newydd:

(Howell, 2019)
* Roedd yna un gêm gytref lle cafodd ei chwarae heb wylwyr. Roedd y gêm yma yn erbyn y Gweilch, sef y gêm sy’n denu'r mwyaf o gefnogwyr y tymor.
Mae’r Gweilch a’r Gleision (Cardiff Rugby erbyn heddiw) wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb, tra bod y Scarlets ‘ar Ddreigiau wedi cael gostyngiad. Mae’r cynnydd Gweilch a Caerdydd yn gallu bod mewn effaith o gefnogwyr Celtic Warriors ymuno a’r ddau dîm. Er mae yna fath o welliant, yn cymharu â rhanbarthau gwledydd eraill, mae’r ffigurau yn siomedig iawn. Yn ogystal â hyn, mae’r nifer o chwaraewyr safon dda yn Gymru wedi lleihau gan fod dim ond 4 tîm iddyn nhw chwarae i, felly mae llawer o chwaraewyr da yn gorfod mynd i wledydd eraill i chwarae. Cyn 2003, roedd yna digon o dimoedd i fwy neu lai pob chwaraewr ar y safon uwch gallu chwarae i un o’r 9 dimoedd o fewn Cymru, sy’n cadw'r dalent Gymraeg o fewn y wlad, yn gwella safon y rhanbarthau.
Daeth y newidiadau sylweddol yma 4 mlynedd ar ôl cyfle mawr i’r WRU. Yn 1999, gwnaeth Lloegr cynnig cynghrair Anglo-Welsh. Roedd yna siawns i Gymru ymuno 5 o’r timoedd Adran 1 i ware gyda thimoedd Adran 1 Lloegr. Yn ogystal â hyn, roedd yna sgwrs o gael timoedd Albanaidd i ymuno hefyd. Yn anffodus, gwrthododd Cymru'r cyfle. Denodd hyn lawer o feirniadaeth (Thomas, 2022). Yn enwedig ar ôl 2003 gyda sut y gwnaethant nhw drin y rhanbarthau.
Ar The Rugby Paper Podcast, roedd gan sylwebydd rygbi a darlledwr, Eddie Butler, lawer i'w ddweud ar y mater (The Rugby Paper, 2022). Mae’n sôn am y newidiad yn 2003, gan ddweud “The creation of the regions was a short term fix for a long term financial problem. But you have to recognise at some stage that the fix doesn’t work”. Mae’n mynd ymlaen i sôn am y gymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr ac yn mynegi ei siom. Mae’n galw am rygbi rhanbarthol yng Nghymru i fynd nôl i rygbi rhanbarthol yng Nghymru ar ben eu hun, heb unrhyw wledydd eraill.
Mewn canlyniad, mae’r newidiadau o 2003 ddim wedi helpu rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae yna deimlad o ormod o benderfyniadau gwael gan y WRU. Cyfres o benderfyniadau, dechrau gyda’r gwrthod i gadw'r rhanbarthau gwreiddiol gan chwarae gyda Lloegr, gan symud ymlaen i’r penderfyniad i greu rhanbarthau newydd, yn benderfyniadau sydd ddim wedi gweithio o blaid rygbi rhanbarthol Cymraeg. I ateb yr awgrym gwreiddiol gan yr holiadur, sy’n rhoi bai o’r sefyllfa presenoldeb ar y fformat rygbi rhanbarthol heddiw, gellir dweud bod hon yn safbwynt teg a rhesymol iawn. Roedd rygbi rhanbarthol yng Nghymru, cyn 2003, yn mewn man llwyddiannus a ddiogel. Roedd y gystadleuaeth rhwng y timoedd Cymru yn agos a cystadleuol. Roedd Cymru yn cynhyrchu llwyth o chwaraewyr safon uwch, ac roedd miloedd o gefnogwyr yn mynychu i gemau ar draws y 9 tîm Adran 1, yn ogystal â’r adrannau o dan. Heb law am y problemau ariannol WRU, falle bydd popeth wedi parhau i lwyddo. Er hyn, i roi'r holl fai o’r diffyg presenoldeb heddiw ar y penderfyniad unigol yma yn annheg, er mae wedi chwarae rôl enfawr. Mae yn gallu cael eu gweld fel y dechrau o’r problemau, yn ogystal â gwrthod cyfleoedd gyda Lloegr. Byddai'n ddiddorol gweld y sefyllfa pe bai y penderfyniadau yma ddim wedi digwydd.
Gallwch weld fwy o farnau, lluniau go iawn a manylion ar y stori o gyn 2003 i heddiw ar y ffilm dogfen yma.
Diolch am ddarllen!
Llyfryddiaeth
Howell, A. (2019). The inside story of the Welsh rugby team that disappeared. WalesOnline. Retrieved July 2022, from https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/inside-story-welsh-rugby-team-15679375.
The Rugby Paper. (2022). Rugby Paper Podcast: Episode Nineteen with Eddie Butler. Retrieved July 2022, from https://www.therugbypaper.co.uk/features/podcast/357813/the-rugby-paper-podcast-episode-nineteen-with-eddie-butler/.
Thomas, S. (2022). WRU turned down five places in Anglo-Welsh league to leave people stunned. WalesOnline. Retrieved July 2022, from https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/sliding-doors-moment-wru-turned-24284725.
Lluniau
Ffigwr 1: Cardiff Rugby Museum. Photographs - Swansea v Cardiff 1974 | Cardiff Rugby. Cardiffrugbymuseum.org. Retrieved July 2022, from https://cardiffrugbymuseum.org/object/photographs-swansea-v-cardiff-1974.













Comments