TOCYNNAU DRUD + DIFFYG LLWYDDIANT = DIM CEFNOGWYR?
- Cai Thomas
- Aug 8, 2022
- 4 min read
Updated: Sep 15, 2022
Yn dilyn y postiad diwethaf sy’n dadansoddi'r canlyniadau’r holiadur, mae’r postiad yma yn ceisio deall un o’r awgrymiadau fwyaf poblogaidd yn ôl y canfyddiadau. Fel y trafodwyd yn y postiad blaenorol, mae llawer yn teimlo bod y pris i fynychu i gemau yn llawer rhy gormod. Yn ogystal â hyn, gwnaeth sawl awgrymu nid yw’r pris tocynnau yn ddigon perthnasol i lwyddiant y timoedd, gan nodi nid yw’r safon y timoedd yn werth yr arian.

Y hen Cardiff Arms Park, seathiad o'r awyr yn 1950 [Cardiff Rugby Museum]
O dan, gallwch weld prisiau tocynnau tymor i’r timoedd Cymru am y tymor 2022/23. Mae’r prisiau a nodwyd yn werthiant cyffredinol, felly nid myfyrwyr na phensiynwyr a.y.y.b. Yn ogystal, mae pris tocyn yn gwahaniaethu yn dibynnu ar le mae person eisiau eistedd:
Gweilch | £180 - £355
Scarlets | £140 - £210
Dreigiau | £160 - £300
Caerdydd | £215 - £315
O dan, gallwch weld y prisiau o docynnau unigol. Eto, mae’r prisiau a nodwyd yn werthiant cyffredinol i gêm unigol. Mae tocynnau hefyd yn gwahaniaethu yn dibynnu ar ba dîm yn chwarae:
Gweilch | £21 - £35
Scarlets | £18 - £25
Dreigiau | £20 - £37
Caerdydd | £22-£28
Gan ddefnyddio'r prisiau uchod, gellir gwneud cymhariaeth rhwng rhanbarthau Cymru a rhanbarthau gwahanol, yn yr un gynghrair yn ogystal â chynghreiriau eraill. Dewisir y timau isod ar sail eu llwyddiant. Mae yna o leiaf cynrychiolaeth o dîm llwyddiannus a thîm sydd ddim mor llwyddiannus i bob cynghrair perthnasol. Mae hyn er mwyn gwneud cymhariaeth deg gyda'r llwyddiant rhanbarthau Cymru. Mae’r tabl yn gallu cael ei weld isod:

* Y Scarlets - Roedd yna un gêm gytref lle cafodd ei chwarae heb wylwyr. Roedd y gêm yma yn erbyn y Gweilch, sef y gêm sy’n denu'r mwyaf o gefnogwyr y tymor. Mae rhaid cymryd hyn mewn i ystyriaeth, gan fod gyda chefnogwyr yn y darbi yna bydd y Scarlets yn cael y presenoldeb ar gyfartaledd uchaf yng Nghymru.
* Rygbi Caeredin - Yn debyg, roedd un gêm gartref a gafodd ei chapio ar 500 o gefnogwyr, felly, dylai eu presenoldeb cyfartalog fod bach yn uwch.
* Glasgow Warriors - Eto, roedd yna un gêm gartref yn erbyn y Gweilch a gafodd ei chapio ar 500 o gefnogwyr. Dylai eu presenoldeb cyfartalog fod bach yn uwch.
* Castres & Lyon - Yn anffodus, nad yw’r cynghrair Ffrainc yn rhyddhau data ar y presenoldeb gemau am y tymor 2021/22. Er hyn, dylid nodi bod y gynghrair Ffrangeg ar aml yn cael ei weld fel y mwyaf poblogaidd, yn denu fwy presenoldeb na’r cynghrair Celtaidd (Cymru, Iwerddon a’r Alban), a'r cynghrair Lloegr (Hogan et al., 2017) (Massey et al., 2012:24).
Mae’r canlyniadau yma yn ddiddorol iawn. Yn gyntaf, mae Cymru a’r Alban yn cael y presenoldeb gwaethaf allan o’r prif wledydd rygbi yn Ewrop. Er mae Lloegr a Ffrainc yn chwarae o fewn cynghrair eu hunan, maen nhw'n denu'r nifer fwyaf o gefnogwyr. Wrth edrych ar y ffigyrau, mae yna mae cydberthynas glir rhwng nifer fawr o gefnogwyr a’r gallu i godi tâl a pharhau i ddenu cefnogwyr. Mae hyn yn siŵr a bod oherwydd y teimlad o'r awyrgylch yn y gemau. Fel y trafodwyd yn y postiad diwethaf, roedd y cyfranwyr yn teimlo bod Cymru yn fryn o awyrgylch sy'n cael effaith ar yr eisiau i fynychu i gemau. Yn debyg, o fewn y cynghrair Celtaidd, mae’r Iwerddon yn denu'r nifer fwyaf o gefnogwyr ac yn gwerthu'r tocynnau yn ddrytach na’r rhanbarthau Cymraeg ac Albanaidd. Yng ngermau Cymru a’r Alban, sy’n gwerthu’r tocynnau rhatach, maen nhw dal yn denu'r nifer lleiaf o fynychwyr. Mae yna deimlad bod y diffyg presenoldeb, sy'n dilyn i ddiffyg awyrgylch, wedi creu problem i'r rhanbarthau sy'n galed i ddianc. Wrth fethu i gael presenoldeb, mae yna ddiffyg awyrgylch, ac wrth fethu i greu awyrgylch, nid yw cefnogwyr eisiau mynychu. Mae'n fath o sefyllfa 'catch 22', ble mae'r ddwy broblem yn bwydo eu gilydd. Mae'n cloi'r rhanbarthau mewn sefyllfa sy'n anodd goresgyn.
O ganlyniad, i ateb yr awgrymiad gwreiddiol gan yr holiadur, sef ‘y rheswm mae yna ddiffyg presenoldeb yng ngemau rygbi rhanbarthol yng Nghymru yw’r pris tocynnau mewn i’r stadiwm, yn ogystal â’r diffyg llwyddiant gan y timoedd", dyma beth mae'r canfyddiadau yn dangos. Er bod rhywfaint o wirionedd, gellir dweud bod yr awgrymiad yma yn anghywir. Mae’r timoedd rhanbarthol Cymru yn cynnig rhai o’r tocynnau rhatach o gwmpas Ewrop (er maen werth nodi, mae’r Scarlets yn cynnig y tocynnau rhatach allan o’r timoedd Cymraeg, ac maen nhw'n hefyd denu'r nifer fwyaf o gefnogwyr). Mae'r diffyg llwyddiant yn amlwg cael effaith ar gefnogaeth, ond nid yw hon y prif reswm tu ôl i’r diffyg cefnogaeth, gan fod timoedd fel Bristol Bears yn methu i orffen uchel yn y cynghrair ond dal yn denu dros ddwbl y nifer o gefnogwyr gyda phrisiau sy’n bron dwbl y swm a’r tocynnau Cymraeg. I gloi, un canfyddiad diddorol iawn yw'r pwysigrwydd o awyrgylch. Mae'r ymchwil o'r postiad yma yn dangos mae yn llawer mwy hawdd i ddenu fwy o gefnogwyr os yna llawer o fynychwyr yn barod. Mae'r timoedd Lloegr a'r Iwerddon yn esiamplau clir o'r gallu i aros ar ben os ydych yna yn barod. Mae hyn yn anffodus iawn i'r rhanbarthau Cymru a'r Alban sy'n cael swydd galed iawn i wella'r sefyllfa.
Er mae hyn yn broblem sylweddol, nid yw'r rheswm gwreiddiol tu ôl y cwymp o fynychwyr rygbi rhanbarthol yng Nghymru.
Diolch am ddarllen!
Llyfryddiaeth
Cardiff Rugby Museum. (1951). Photograph - Cardiff Arms Park 1950. [online] Available at: <https://cardiffrugbymuseum.org/object/photograph-cardiff-arms-park-1950> [Accessed August 2022].
Hogan, V., Massey, P., & Massey, S. (2017). Analysing match attendance in the European Rugby Cup: Does uncertainty of outcome matter in a multinational tournament?. European Sport Management Quarterly, 17(3), 312-330. https://doi.org/10.1080/16184742.2016.1276207
Massey, P., Massey, S., & Hogan, V. (2012). Competitive Balance and Match Attendance in European Rugby Union Leagues. Retrieved July 2022, from https://researchrepository.ucd.ie/handle/10197/3885.



Comments